Neidio i'r cynnwys

Sut i ddefnyddio Incoterms

Archwiliwch y gwahanol gyfrifoldebau y gall gwerthwyr a phrynwyr gytuno arnynt ar gyfer nwyddau a ddanfonir i Ogledd Iwerddon.

Cynnwys y dudalen:

  • Pam mae angen i chi wybod am Incoterms
  • Pwy sydd angen gwybod am Incoterms?
  • Faint o Incoterms sydd?
  • Pa Incoterms a ddefnyddir yn aml ar gyfer symudiadau Roll on/Roll off (RoRo) o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon?
  • A allaf ddal i ddefnyddio Incoterms®  2010 ar ôl 1 Ionawr 2020?
  • Negodi Incoterms

Mae angen datganiadau i CThEF ar gyfer symudiadau nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae Incoterms yn nodi pwy sy'n cwblhau datganiadau mewnforio a phwy sy'n talu tollau mewnforio pan fo angen. Mae hyn yn berthnasol i nwyddau a ddanfonir yng Ngogledd Iwerddon fel rhan o gontract gwerthu.

Gall y parti sy'n gyfrifol am y datganiad mewnforio ei gwblhau gan ddefnyddio porth y Trader Support Service. 

Pam mae angen i chi wybod am Incoterms?

Mae Incoterms yn bwysig oherwydd eu bod yn gwneud masnachu'n haws. Mae hyn yn helpu busnesau i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ym mhob cytundeb masnach, rhaid i'r prynwr a'r gwerthwr gytuno pwy:

  • sy'n talu am ddanfon
  • sy'n ymdrin ag yswiriant y cargo a'r llwythi yn ystod y cludo
  • sy'n gofalu am y ddogfennaeth

Mae Incoterms yn gosod safon ar gyfer telerau masnach rhwng gwerthwyr a phrynwyr. Mae cydnabyddiaeth fyd-eang o'r telerau hyn yn cefnogi contractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Incoterms. (yn agor mewn tab newydd). 

Pwy sydd angen gwybod am Incoterms?

Mae Incoterms yn bwysig ar draws sawl rhan o fusnes. Pan fydd pawb yn eu deall, maent yn helpu i gadw gwaith yn gydlynol yn y ffyrdd canlynol:

  • mae timau mewnforio yn defnyddio Incoterms i roi'r cyfarwyddiadau cywir i gludwyr sy'n symud nwyddau
  • mae timau gwerthu yn eu cynnwys ar ddyfynbrisiau i ddangos y math o werthiant a'r telerau danfon
  • bydd caffael yn defnyddio Incoterm penodol mewn contractau i bennu cyfrifoldebau clir am gostau a risgiau
  • mae timau cyfrifyddu yn eu defnyddio i benderfynu a ddylid cymeradwyo anfonebau cludo llwythi sy'n gysylltiedig ag archeb brynu
  • mae timau cyllid yn adolygu'r Incoterms ar archebion prynu i gadarnhau'r cyfrifiad o werth tollau ac i nodi costau ychwanegol yn y ‘Landed Cost’. Dyma gyfanswm cost prynu nwyddau, gan gynnwys eu cludo o'r wlad tarddiad i'r wlad sy'n gwerthu.

Faint o Incoterms sydd?

Mae 11 Incoterms® 2020 yn bodoli. Maent yn egluro'r cyfrifoldebau, y risgiau a'r costau i brynwyr a gwerthwyr wrth ddanfon nwyddau. Gallwch eu nodi wrth gwblhau datganiadau yn y TSS Portal.

Mae 7 o'r rheolau hyn yn gymwys i bob dull cludiant. Mae'r 4 arall yn gymwys i gludiant môr, tir neu ddyfrffordd fewndirol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Incoterms (yn agor mewn tab newydd).

  

Pa Incoterms a ddefnyddir yn aml ar gyfer symudiadau Roll on/Roll off (RoRo) o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon?

Os ydych yn prynu neu'n gwerthu nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, defnyddir yr Incoterms hyn yn gyffredin: 

Ex Works (EXW)

Mae prynwyr yng Ngogledd Iwerddon yn trefnu cludiant i'r gyrchfan. Rhaid iddynt gwblhau datganiadau mewnforio a thalu unrhyw dollau perthnasol os yw'r nwyddau ‘mewn perygl’. Mae'r risg o golled neu ddifrod yn symud o'r gwerthwyr i'r prynwyr yn y man casglu y cytunwyd arno.

 

Danfonwyd yn y Gyrchfan (DAP)

Mae gwerthwyr ym Mhrydain Fawr yn trefnu cludiant i'r gyrchfan a ddewiswyd gan brynwyr yng Ngogledd Iwerddon. Maent hefyd yn talu'r holl gostau, gan gynnwys cludo llwythi ac yswiriant, i'r gyrchfan.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i brynwyr gwblhau datganiadau mewnforio a thalu unrhyw dollau perthnasol os yw'r nwyddau 'mewn perygl'.

Mae'r risg o golled neu ddifrod yn cael ei throsglwyddo o'r gwerthwyr i'r prynwyr pan fydd y nwyddau'n cyrraedd ac yn barod i'w dadlwytho yn y gyrchfan y cytunwyd arni.

 

Danfonwyd â'r Tollau wedi eu Talu (DDP)

Mae gwerthwyr ym Mhrydain Fawr yn trefnu cludiant i'r gyrchfan. Rhaid iddynt gwblhau datganiadau mewnforio a thalu unrhyw dollau perthnasol os yw'r nwyddau ‘mewn perygl’.

Mae'r risg o golled neu ddifrod yn cael ei throsglwyddo o'r gwerthwyr i'r prynwyr pan fydd y nwyddau'n barod i'w dadlwytho yn y man cyrchfan y cytunwyd arno. 

Sylwch: Wrth ddefnyddio DDP, mae gwerth yr anfoneb a ddatganwyd yn cynnwys toll. Os yw'n berthnasol, rhaid i bob llinell eitem ar yr anfoneb ddangos:

  • toll dramor (gan gynnwys unrhyw dollau tramor wedi'u sicrhau)
  • tollau gwrth-ddympio terfynol
  • tollau gwrthbwyso terfynol
  • toll ddial

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am Gyfrifo gwerth tollau eich nwyddau a fewnforiwyd (yn agor mewn tab newydd).

 

A allaf ddal i ddefnyddio Incoterms® 2010 ar ôl 1 Ionawr 2020?

Gallwch, mae pob contract sy'n cynnwys unrhyw Incoterms® 2010 yn ddilys os yw pob parti'n cytuno. Yn y sefyllfa hon, rhaid i ddogfennau allforio nodi'n glir pa fersiwn o Incoterms y cytunwyd arni.

Mae'r Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC) yn awgrymu defnyddio Incoterms® 2020 o 1 Ionawr 2020 ymlaen. Fodd bynnag, gall partïon mewn contract gwerthu ddewis unrhyw fersiwn o Incoterms ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae angen i chi bennu'r fersiwn o Incoterms rydych yn ei defnyddio, megis Incoterms® 2020, Incoterms® 2010, neu fersiwn gynharach.

Negodi Incoterms

Wrth gytuno ar gontract gwerthu, rhaid i'r anfonwr a'r derbynnydd gytuno ar ba Incoterm i'w ddefnyddio. Gall y dewis gorau ddibynnu ar faint y busnes a'u profiad o reoli cludo llwythi.

Er enghraifft, gall cwmni  mawr ym Mhrydain Fawr, sy'n gwerthu i brynwr llai yng Ngogledd Iwerddon, fod â mwy o brofiad o forgludiant a mynediad at gludiant rhatach. Yn yr achos hwn, gallai'r partïon ddewis DDP lle mae'r gwerthwr yn rheoli'r cyflenwi ac yn cwblhau'r holl ddatganiadau.

Os yw cwmni mawr yng Ngogledd Iwerddon yn prynu gan gwmni bach ym Mhrydain Fawr, gall y partïon ddewis defnyddio EXW. Mae hyn yn golygu bod y prynwr yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb, risgiau a chostau am symud y nwyddau.

Pan fydd dau fusnes llai yn masnachu, gall fod yn llai clir pwy ddylai ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Yn yr achos hwn, yn seiliedig ar allu'r busnes, dylai'r ddau barti gytuno pa Incoterm sy'n gweddu orau i'w hanghenion.