Neidio i'r cynnwys

Ysgrifennu disgrifiad derbyniol o nwyddau

Disgrifiwch eich nwyddau ar gyfer Gwybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol, datganiadau safonol a datganiadau cryno wrth gyrraedd.

Cynnwys y dudalen:

Defnyddiwch y canllawiau hyn i'ch helpu i ysgrifennu disgrifiad derbyniol o nwyddau a fydd yn ddilys ar gyfer:

  • datganiadau a gyflwynir i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau drwy'r Trader Support Service 
  • datganiadau cryno wrth gyrraedd a gyflwynir i'r Import Control System 2 drwy'r Trader Support Service

Beth y mae'n rhaid i chi ei gynnwys ar gyfer pob datganiad 

Rhaid i chi roi manylion clir a phenodol am eich nwyddau, fel y gall y tollau eu hadnabod. Os na wnewch chi hynny, gall eich datganiad gael ei wrthod.

  • Gall eich disgrifiad gynnwys:
  • deunydd - beth mae'r nwyddau wedi'u gwneud ohono
  • defnydd - at beth mae'r nwyddau'n cael eu defnyddio - os oes mwy nag un defnydd i'r nwyddau, nodwch y defnydd sy'n berthnasol i'ch nwyddau
  • pecynnu - ar gyfer nwyddau wedi'u pecynnu, nodwch y math o becynnu
  • brand a model ar gyfer nwyddau â brand

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddisgrifiadau nwyddau yn DE 6/8 Description of Goods. 

Er enghraifft, os ydych chi'n cludo tyrnsgriwiau, peidiwch ag ysgrifennu ‘tyrnsgriwiau’ yn unig.

Gofynnwch gwestiynau allweddol i chi'ch hun am y cynnyrch. Defnyddiwch yr atebion i ysgrifennu disgrifiad clir o'r nwyddau. Cynhwyswch fanylion fel:

  • y math - os ydyn nhw'n dyrnsgriwiau hecs, pen fflat, Torx neu Phillips
  • lliw - os yw'r carnau'n lliwiau gwahanol
  • os ydyn nhw'n eitemau unigol neu'n becynnau

Felly, gallai disgrifiad derbyniol fod: ‘Set o 3 thyrnsgriw coch pen fflat Bosch’.

Defnyddiwch y dull hwn ar gyfer unrhyw nwyddau rydych chi'n eu symud, beth bynnag fo'u maint neu eu math.

Mae gofynion ychwanegol ar gyfer disgrifiadau nwyddau ar ddatganiad cryno wrth gyrraedd. Gweler yr adran Datganiadau cryno wrth gyrraedd: geiriau gwaharddedig a nodau annerbyniol am fwy o fanylion.

Disgrifiadau derbyniol ar gyfer gwahanol fathau o nwyddau 

Mae'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chynnwys yn dibynnu ar y math o nwyddau rydych chi'n eu symud.

Os ydych chi'n symud dillad wedi'u pecynnu mewn setiau ac yn ôl maint, cynhwyswch y manylion hyn yn y disgrifiad. Er enghraifft: ‘crysau-T cotwm menywod, maint 14, pecynnau o 3’.

Os ydych chi'n symud nwyddau ecséis, rhaid i chi gynnwys y cyfaint, yr enw brand, a maint y cynhwysydd. Er enghraifft: ‘tybaco rholio â llaw, Amber Leaf, 500g’.

Os ydych chi'n symud cynhyrchion alcohol, rhaid i chi hefyd gynnwys cryfder yr alcohol. Er enghraifft: ‘fodca, Absolut, 1 litr, ABV 37.5’

Rhaid i chi beidio â chopïo disgrifiadau tariff o'r Tariff Ar-lein Gogledd Iwerddon i ddisgrifio eich nwyddau. Mae'r disgrifiadau hyn yn gyffredinol ac nid ydynt yn nodi eich nwyddau.

Os ydych chi'n datgan amryfal nwyddau o dan un cod nwyddau, rhaid i chi gynnwys y gair ‘grouping’. Er enghraifft: ‘addurniadau porslen wedi'u gwneud â llaw, cerfluniau crochenwaith pridd - grouping’.

Dysgwch am grwpio ar gyfer datganiadau safonol (yn agor mewn tab newydd).

Dysgwch am grwpio Gwybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol (yn agor mewn tab newydd).

Enghreifftiau o ddisgrifiadau derbyniol

Dylai disgrifiad nwyddau fod yn ddigon penodol i nodi'n union beth sy'n cael ei gludo. Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos y gwahaniaeth rhwng disgrifiad nwyddau annerbyniol a disgrifiad derbyniol.

Disgrifiad annerbyniolDisgrifiad derbyniol
DilladCrysau cotwm dynion (wedi'u gwau) - maint XL
OfferOergell-rewgell (cyfun), 249 ltr, Hotpoint, gwyn
MeddyginiaethauTabledi ibwproffen 200mg, 40 uned
FfrwythauBricyll ffres (i'w bwyta gan bobl) mewn cratiau (48 ltr)
AlcoholFodca (Smirnoff) 1ltr, ABV 37.5
Rhannau CeirBreciau Ceir, Gwydr Ffenestr Flaen ar gyfer Ceir

Datganiadau cryno wrth gyrraedd: geiriau gwaharddedig a nodau annerbyniol 

Mae rhai geiriau (geiriau stop) a nodau na allwch eu defnyddio wrth ddisgrifio eich nwyddau ar ddatganiad cryno wrth gyrraedd.

Yn y Trader Support Service, os byddwch yn defnyddio gair stop a/neu nod annerbyniol, byddwch yn gweld neges gwall. Bydd angen i chi roi disgrifiad gwell.

Er mwyn eich helpu i osgoi i ddatganiadau cryno wrth gyrraedd gael eu gwrthod, gwiriwch restr yr UE o eiriau stop a nodau annerbyniol  ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd (yn agor mewn tab newydd).

Mae'r UE yn diweddaru'r rhestr hon o bryd i'w gilydd, felly gwiriwch hi cyn i chi ddechrau.

Gwybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol 

Dysgwch sut i ddisgrifio eich nwyddau: Grŵp 6: Adnabod Nwyddau (yn agor mewn tab newydd).

Datganiadau safonol

Dysgwch sut i ddisgrifio eich nwyddau:  Disgrifiad o Nwyddau ar gyfer Mewnforion (yn agor mewn tab newydd).

Cynnwys cysylltiedig:

Tariff Ar-lein Gogledd Iwerddon: Chwiliwch am godau nwyddau, cyfraddau tollau a TAW - GOV.UK