Neidio i'r cynnwys

Defnyddio'r Broses Datganiadau Tollau Symlach yn y Trader Support Service

Dysgwch am ddefnyddio'r broses datganiadau tollau symlach (SCDP) yn y Trader Support Service wrth symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Dysgwch am ddefnyddio'r broses datganiadau tollau symlach (SCDP) yn y Trader Support Service wrth symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

  • Cynnwys y dudalen:
  • Y Broses Datganiadau Tollau Symlach (SCDP)
  • Defnyddio SCDP yn y Trader Support Service
  • Mathau o ddatganiadau SCDP
  • Pwy sy'n gwneud beth
  • Datganiadau a mathau o nwyddau

Y Broses Datganiadau Tollau Symlach (SCDP)

Mae'r Broses Datganiadau Tollau Symlach (SCDP) yn awdurdodiad tollau sy'n caniatáu  i fasnachwyr dd atgan symudiadau nwyddau mewn dwy ran.

  1. Cyn i'r nwyddau symud, gwnewch ddatganiad symlach neu gofnod yng nghofnodion y datganydd (EIDR).
  2. Pan fydd y nwyddau'n cyrraedd, gwnewch ddatganiad atodol gyda gwybodaeth dollau lawn.

Defnyddio SCDP yn y Trader Support Service

Mae gan y Trader Support Service ei awdurdodiad SCDP ei hun y gallwch ei ddefnyddio.

Fel arall, gallwch wneud cais am eich awdurdodiad SCDP eich hun. Os ydych am ddefnyddio eich awdurdodiad eich hun, bydd angen i chi ei ychwanegu at broffil eich cwmni.

 Dysgwch sut i ychwanegu eich awdurdodiad at broffil eich cwmni

Gall y Trader Support Service:

  • wneud EIDRs neu greu a chyflwyno datganiadau symlach ar eich rhan
  • greu a chyflwyno datganiadau atodol ar eich rhan 
Nid yw SCDP yn dileu gofynion tollau eraill. Mae'n dal yn rhaid i chi:
fodloni gofynion datganiadau diogelwch a sicrwydd
ddal y trwyddedau a thystysgrifau cywir sydd eu hangen ar gyfer eich nwyddau
ddilyn unrhyw gyfyngiadau a gwaharddiadau ar eich nwyddau

Dysgwch fwy am y Broses Datganiadau Tollau Symlach.

Mathau o ddatganiadau SCDP

Cofnod yng Nghofnodion y Datganydd (EIDR)

Gallwch wneud cofnod yn eich cofnodion (EIDR) i symud nwyddau safonol. Rhaid i chi gofnodi'r nwyddau yn eich cofnodion masnachol eich hun cyn i'r nwyddau symud.

Gall y Trader Support Service greu'r cofnod hwn ar eich cyfer.

Mae angen datganiad atodol pan fydd y nwyddau'n cyrraedd Gogledd Iwerddon.

Dysgwch sut i lenwi cofnod yng nghofnod y datganydd (EIDR).

Datganiad symlach

Neu fe allwch gyflwyno datganiad tollau symlach cyn i'r nwyddau symud, ac yna datganiad atodol.

Gallwch ddefnyddio'r Trader Support Service i wneud datganiad symlach ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â datganiad cryno wrth gyrraedd.

Os yw eich nwyddau o dan reolaeth, rhaid i chi ddefnyddio datganiad symlach fel y gall CThEF gynnal gwiriadau gofynnol cyn i'r nwyddau symud.

Dysgwch sut i lenwi datganiad symlach a datganiad atodol.

Datganiad atodol

Pan fydd eich nwyddau'n cyrraedd Gogledd Iwerddon, rhaid i chi gyflwyno'r datganiad atodol ynghyd â holl wybodaeth dollau'r symudiad.

Rhaid i chi wneud hyn ar ôl cyflwyno datganiad symlach neu EIDR er mwyn:

  • cwblhau'r broses dollau
  • caniatáu i unrhyw doll dramor neu drethi sy'n ddyledus gael eu cyfrifo a'u talu

Gallwch ei ddisodli â'r Wybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol (IMMI) os ydych yn gymwys.

Dyddiadau cau datganiadau atodol

Rhaid cyflwyno'r datganiad atodol erbyn y 10fed diwrnod calendr o'r mis sy'n dilyn y symudiad.

Er enghraifft:

  • mae eich nwyddau'n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon ar 5 Mawrth
  • rhaid i chi gyflwyno'r datganiad atodol erbyn 10 Ebrill

Datganiad atodol terfynol

Bydd y Trader Support Service yn cyflwyno datganiad atodol terfynol yn awtomatig i CThEF ar eich rhan.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys pob symudiad nwyddau mewn cyfnod adrodd.

Caiff y datganiad atodol terfynol ei gyflwyno erbyn yr 11eg diwrnod calendr o'r mis sy'n dilyn y cyfnod adrodd.

Er enghraifft:

  • mae eich nwyddau'n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn ystod cyfnod adrodd mis Mawrth
  • rhaid cyflwyno'r datganiad atodol terfynol erbyn 11 Ebrill

Pwy sy'n gwneud beth

Os mai chi yw'r mewnforiwr cofnodedig, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth yn y datganiad symlach neu'r EIDR yn gywir.

Rhaid i chi hefyd sicrhau bod y datganiad atodol yn cael ei gyflwyno mewn pryd, naill ai drwy'r Trader Support Service neu gan gyfryngwr ar eich rhan.

Datganiadau a mathau o nwyddau

Mae'r datganiad y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar y mathau o nwyddau rydych yn eu symud.

Nwyddau o dan reolaeth

Rhaid datgan nwyddau o dan reolaeth gan ddefnyddio datganiad symlach fel y gall CThEF gynnal y gwiriadau gofynnol cyn i'r nwyddau symud.

Ni allwch ddefnyddio EIDR ar gyfer nwyddau o dan reolaeth.

Mae'n rhaid i chi wirio a yw eich nwyddau o dan reolaeth cyn i chi ddechrau.

Efallai na fydd rhai nwyddau o dan reolaeth yn gymwys ar gyfer dulliau datganiadau symlach. Gwiriwch ganllawiau CThEF ar nwyddau nad ydynt yn gymwys ar gyfer SCDP.

Nwyddau safonol

Os nad yw eich nwyddau o dan reolaeth, gallwch ddefnyddio naill ai EIDR neu ddatganiad symlach.