Neidio i'r cynnwys

Defnyddio eich awdurdodiad Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS) yn y Trader Support Service

Dysgwch sut i ddefnyddio awdurdodiad Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS) sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys wrth wneud datganiad tollau neu gyflwyno'r Wybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol (IMMI) yn y Trader Support Service

Cynnwys y dudalen:

  • Beth yw Cynllun Marchnad Fewnol y DU
  • Gwiriwch a allwch chi ddatgan bod eich nwyddau ‘ddim mewn perygl’ o dan UKIMS
  • Cyn defnyddio eich awdurdodiad UKIMS
  • Defnyddio eich awdurdodiad UKIMS yn y Trader Support Service
  • UKIMS a Chofnod yng Nghofnodion y Datganydd (EIDR)
  • Rhoi a rheoli caniatadau ar gyfer UKIMS yn y Trader Support Service
Defnyddiwch y canllawiau hyn os oes gennych awdurdodiad UKIMS a'ch bod am ddatgan bod eich nwyddau ‘ddim mewn perygl’ o fynd i'r UE. Os nad oes gennych awdurdodiad UKIMS a bod eich nwyddau ‘ddim mewn perygl’ o fynd i'r UE, gwiriwch a allwch chi leihau toll dramor ar nwyddau sy'n symud i Ogledd Iwerddon 

Beth yw Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS)?

Mae awdurdodiad Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS) yn rhoi mynediad i chi ddefnyddio'r prosesau wedi'u symleiddio ar gyfer Symudiadau'r Farchnad Fewnol  wrth symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Mae hyn yn golygu:

·       gallwch gyflwyno'r Wybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol yn lle datganiad llawn

·       nid ydych yn talu toll pan gaiff nwyddau eu datgan yn rhai ‘ddim mewn perygl’ o symud i'r UE o gylchrediad rhydd ym Mhrydain Fawr

Gall cyfryngwyr hefyd wneud cais am eu hawdurdodiad UKIMS eu hunain er mwyn defnyddio'r prosesau wedi'u symleiddio ar ran eu cwsmeriaid. I ddefnyddio'r awdurdodiad, rhaid iddynt weithredu fel y mewnforiwr a gofnodir ar y datganiad, a chadw cofnodion priodol i brofi bod y nwyddau wedi aros ym marchnad fewnol y DU

 

Dysgwch fwy am UKIMS a'r gofynion cydymffurfedd y mae'n rhaid i chi eu bodloni i gael eich awdurdodi.

Gwiriwch a allwch chi ddatgan bod eich nwyddau ‘ddim mewn perygl’ o dan UKIMS

Gallwch ddatgan bod nwyddau ‘ddim mewn perygl’ o symud i'r UE, os ydynt ar werth i ddefnyddwyr terfynol, neu at ddefnydd terfynol ganddynt, yng Ngogledd Iwerddon neu Brydain Fawr.

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich nwyddau'n bodloni'r amodau hyn, a rhaid i chi gadw tystiolaeth ar gyfer pob llwyth a symudir i Ogledd Iwerddon am hyd at 5 mlynedd.

 

Dysgwch fwy ynglŷn â phryd y gallwch ddatgan bod nwyddau ‘ddim mewn perygl’.

 

Cyn defnyddio eich awdurdodiad UKIMS

Cyn symud nwyddau, rhaid i chi gytuno ar rolau a chyfrifoldebau a sicrhau bod eich nwyddau'n bodloni amodau'r cynllun.

Cam gweithreduMasnachwr (gwerthwr/allforiwr, prynwr/mewnforiwr)Cludydd(cludwr, cludwr)Cyfryngwr(asiant/hwylusydd danfon nwyddau)
Cytuno pwy fydd y mewnforiwr a gofnodir ar gyfer y symudiadIeIe (os ydych yn cwblhau gwybodaeth dollau a datganiad cryno wrth gyrraedd fel rhan o’r siwrnai gyfun)Ie (cytuno â’r masnachwr)
Cadarnhau'r awdurdodiad UKIMS i'w ddefnyddioIeIe (os ydych yn cwblhau gwybodaeth dollau a datganiad cryno wrth gyrraedd fel rhan o’r siwrnai gyfun)Ie (cytuno â’r masnachwr)
Gwirio bod y nwyddau’n bodloni amodau ‘ddim mewn perygl’IeNaIe (os ydych yn defnyddio’ch awdurdodiad UKIMS eich hun)

 

Defnyddio eich awdurdodiad UKIMS yn y Trader Support Service

Rhaid i chi lanlwytho llythyr eich awdurdodiad UKIMS i’ch proffil cwmni cyn y gallwch ei ddefnyddio:

  1. O’r Ddewislen dewiswch ‘Proffil Cwmni’
  2. Dewiswch ‘gweld gwybodaeth y cwmni’
  3. Dewiswch ‘golygu gwybodaeth y cwmni’
  4. Llywiwch i’r awdurdodiadau a dewiswch ‘ychwanegu awdurdodiad’

 

Rhaid i chi nodi:

·       eich rhif awdurdodiad UKIMS

·       y rhif EORI sy’n gysylltiedig â’ch awdurdodiad UKIMS

·       dyddiad cychwyn yr awdurdodiad

 

Bydd y Trader Support Service yn gwirhau eich awdurdodiad UKIMS. Dim ond pan fydd y statws yn cael ei ddangos fel ‘Gweithredol’ yn eich proffil cwmni y gallwch ddefnyddio’r awdurdodiad.

 

Bydd manylion eich awdurdodiad yn cael eu llenwi’n awtomatig gan y Trader Support Service ar eich datganiadau ar gyfer eich symudiadau ‘ddim mewn perygl’, felly nid oes rhaid i chi wneud hynny eich hun.

Os nad yw llythyr eich awdurdodiad UKIMS wedi’i lanlwytho, os nad yw’n weithredol, neu os nad oedd yn ddilys ar adeg symud y nwyddau, mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu trin fel rhai ‘mewn perygl’ ac efallai y bydd rhaid i chi dalu toll ar gyfradd berthnasol yr UE. Os oes tollau tramor’n ddyledus, efallai y gallwch hawlio hepgoriad toll dramor. Os yw tollau wedi cael eu talu a bod gennych awdurdodiad UKIMS gweithredol ar adeg y symud, ond na wnaethoch ei lanlwytho i’ch proffil cwmni, gallwch wneud cais am ad-daliad drwy ddefnyddio’r cynllun ad-dalu tollau 

 

UKIMS a Chofnod yng Nghofnodion y Datganydd (EIDR)

Os ydych wedi’ch awdurdodi ar gyfer UKIMS, ac nad ydych yn defnyddio’r Trader Support Service i symud eich nwyddau, gallech wneud cais am awdurdodiad UKIMS-EIDR i helpu i symleiddio eich symudiadau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Dysgwch ragor am ddefnyddio UKIMS-EIDR.

Rhoi a rheoli caniatadau ar gyfer UKIMS yn y Trader Support Service

Rhaid i chi roi caniatâd i drydydd partïon os ydych am iddynt ddefnyddio eich awdurdodiad UKIMS i gwblhau’r canlynol ar eich rhan:

  • y Wybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol
  • datganiad atodol
  • ddatganiad safonol

 

Gallwch hefyd ganiatáu iddynt gael mynediad at eich Proffil Nwyddau Masnachwr (TGP), os oes angen.

Dim ond Prif Gyswllt y Trader Support Service sy’n gallu rhoi a rheoli caniatadau.

 

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn rhoi caniatâd

Pan fyddwch yn rhoi caniatâd:

  • gall y trydydd parti ddefnyddio eich awdurdodiad UKIMS i gyflwyno’r Wybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol, y datganiad atodol a’r datganiad safonol
  • mae'r caniatâd yn cael ei gadw ym mhroffil eich cwmni, felly nid oes rhaid i chi eu hawdurdodi ar gyfer pob symudiad
  • dim ond os ydych wedi caniatáu mynediad y gallant ddefnyddio TGP

Mae caniatadau UKIMS a TGP ar wahân. Gallwch ddewis rhoi mynediad UKIMS neu fynediad UKIMS a TGP gyda'i gilydd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r lefel mynediad sydd ei hangen yn unig.

 

Rhoi caniatâd i ddefnyddio eich awdurdodiad UKIMS

I roi caniatâd, rhaid i chi:

·       fynd i'ch Proffil Cwmni

·       ddewis Mynediad UKIMS a Phroffil Nwyddau Masnachwr

·       ar Reoli caniatadau UKIMS a TGP, ddewis sut rydych am roi mynediad:

o   i bob defnyddiwr

o   i drydydd parti penodol gan ddefnyddio ei rif EORI neu enw ei gyfrif

·       os nad ydych yn caniatáu mynediad i bob defnyddiwr, ddewis, ar gyfer y trydydd parti, yr opsiynau caniatâd

·       os yw'r trydydd parti heb ei restru ar eich proffil, ychwanegu ei fanylion

·       gadarnhau a derbyn y telerau

Bydd y caniatâd wedyn yn cael ei gofnodi ym mhroffil eich cwmni

Golygu caniatadau

Gallwch newid caniatadau ym mhroffil eich cwmni.

I wneud hyn:

·       ewch i fynediad UKIMS a Phroffil Nwyddau Masnachwr

·       dewiswch rif EORI y trydydd parti

diweddarwch lefel y mynediad