Hawlio hepgoriadau toll dramor
Dysgwch sut i hawlio hepgoriad toll dramor fel cymorth gwladwriaethol de minimis i dalu cost toll yr UE sy'n daladwy ar nwyddau ‘mewn perygl’.
Cynnwys y dudalen:
- Cyflwyniad
- Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn?
- Pryd nad yw'r hepgoriad yn gymwys
- Beth yw cyfrifoldeb y fenter?
- Diweddaru eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF
- Cwblhau eich hawliad yn y Trader Support Service
- Beth sy'n cyfrif fel cymorth de minimis
Cyflwyniad
Mae hepgoriad toll dramor yn fath o gymorth de minimis a ddefnyddir i dalu tollau tramor a godir ar nwyddau ‘mewn perygl’ rydych yn eu symud i Ogledd Iwerddon. Bydd angen i chi wirio a allwch hawlio hepgoriad.
Mae canllawiau'r llywodraeth ar sut i hawlio hepgoriad ar gyfer toll ar nwyddau rydych yn dod â nhw i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr neu o wledydd y tu allan i'r DU a'r UE yn rhoi gwybodaeth am:
- pwy all hawlio'r hepgoriad toll dramor
- lwfansau fesul sector
sut y gallwch hawlio'r hepgoriad toll dramor
Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn?
Mae'r hepgoriad toll dramor ar gyfer symudiadau nwyddau ‘mewn perygl’ wedi'i fwriadu yn bennaf ar gyfer:
- busnesau bach neu ganolig, neu
- y rhai sy'n symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon yn achlysurol yn unig
Gall unrhyw fasnachwr yn y DU sy'n symud nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon hawlio'r hepgoriad, gan gynnwys busnesau mawr. Fodd bynnag, gan fod y lwfans hefyd yn cwmpasu cymorth arall (fel rhyddhad treth), mae busnesau mawr yn fwy tebygol o fod wedi'i ddefnyddio i gyd eisoes.
Pryd nad yw'r hepgoriad yn gymwys
Nid yw'r hepgoriad yn gymwys pan nad yw toll yr UE yn daladwy; felly, nid yw hawlio hepgoriad toll dramor yn berthnasol, os ydych chi:
- wedi'ch cofrestru ar gyfer Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS) a bod eich nwyddau ‘ddim mewn perygl’
- yn cyflwyno Gwybodaeth am Symudiad yn y Farchnad Fewnol (IMMI) o dan brosesau symlach Fframwaith Windsor ar gyfer Symudiadau'r Farchnad Fewnol
Beth yw cyfrifoldeb y fenter?
Mae eich lwfans cymorth gwladwriaethol de minimis yn gymwys i bob rhan o'ch sefydliad sy'n cymryd rhan mewn dod â nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon. Gyda'i gilydd, fe'u gelwir yn “fenter”. Mae angen i chi benodi gweinyddwr menter i reoli'r cyfrif cymorth gwladwriaethol de minimis.
Mae'r lwfans yn cynnwys:
- cymorth gwladwriaethol nad yw'n ymwneud â thollau - dysgwch beth sy'n cyfrif fel cymorth de minimis
- hepgoriad toll dramor
- Pan fo'n berthnasol, gweinyddwyr menter sy'n gyfrifol am:
- roi gwybod am gymorth gwladwriaethol nad yw'n ymwneud â thollau a hawliwyd drwy wasanaethau ar-lein CThEF
Gall mewnforwyr sy'n rhan o'r fenter hawlio hepgoriadau toll dramor ar gyfer nwyddau ‘mewn perygl’ drwy ddatganiadau tollau gan ddefnyddio'r Trader Support Service.
Diweddaru eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF
Cyn y gallwch hawlio hepgoriad toll dramor, gwnewch yn siŵr bod eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn gyfredol gyda:
- eich sector diwydiant
- manylion eich busnes
- manylion unrhyw fusnesau eraill yn eich grŵp TAW
Bydd hefyd angen i chi gofnodi'r holl gymorth de minimis rydych wedi'i hawlio yn ystod y:
- cyfnod treigl 3 blynedd diwethaf
- 3 blynedd dreth ddiwethaf os ydych yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu
Os nad oes gennych un eisoes, bydd angen i chi fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF gyda'r canlynol ar gyfer eich busnes:
- rhif EORI
- cyfeiriad e-bost
Mae rhagor o fanylion am y camau hyn ar gael yn sut i Roi gwybod am daliadau a gweld eich lwfans ar gyfer cymorth gwladwriaethol nad yw'n ymwneud â thollau a hawliadau hepgoriad Toll Dramor.
Cwblhau eich hawliad yn y Trader Support Service
Unwaith y bydd eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn gyfredol, gallwch hawlio hepgoriad toll dramor mewn:
- datganiad atodol
- datganiad safonol
Bydd angen i chi ychwanegu cod gwybodaeth ychwanegol cenedlaethol ‘NIAID’ at eich datganiad. Gallwch ddod o hyd i restr o godau gwybodaeth ychwanegol cenedlaethol yn Atodiad 4B.
Gwiriwch eich lwfans yn rheolaidd i sicrhau bod eich hawliad yn llwyddiannus. Bydd yr holl dollau a gyfrifir yn cael eu didynnu o'ch lwfans y gellir ei olrhain ar wasanaeth ar-lein CThEF.
Beth sy'n cyfrif fel cymorth de minimis?
Mae angen i chi wirio gyda'r awdurdod a ddarparodd y cymorth i gadarnhau a yw'n cyfrif fel cymorth de minimis.
Edrychwch ar yr holl gymorth ariannol rydych wedi'i gael a rhowch wybod am unrhyw beth sy'n cyfrif fel cymorth de minimis gan ddefnyddio gwasanaeth digidol CThEF.
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gymorth de minimis:
- grantiau gwladwriaethol
- rhyddhad cyfradd llog
- rhyddhad treth
- credydau treth
- gwarantau neu ddaliadau gwladwriaethol
- darpariaeth y wladwriaeth o nwyddau neu wasanaethau ar delerau ffafriol
- cymorthdaliadau uniongyrchol
- esemptiadau treth
- cyfraddau llog ffafriol
- gwarantau benthyciadau ar delerau arbennig o ffafriol
- caffael tir neu adeiladau naill ai am ddim neu ar delerau ffafriol
- darparu nwyddau a gwasanaethau ar delerau ffafriol
- indemniadau yn erbyn colledion gweithredu
- ad-dalu costau yn achos llwyddiant
- gwarantau gwladwriaethol, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i weithrediadau credyd cyfraddau ail-ddisgowntio ffafriol
- cyfraddau disgownt
- gwarantau difidend
- archebu cyhoeddus ffafriol
- lleihau ffioedd neu drethi, neu esemptiad rhagddynt, gan gynnwys dibrisiant carlam a lleihau cyfraniadau cymdeithasol
- gohirio casglu cyfraniadau cyllidol neu gymdeithasol
- cymorth a ariennir gan ardollau arbennig